Neidio i'r cynnwys

Janine (drama)

Oddi ar Wicipedia
Janine
AwdurCefin Roberts
Cyhoeddwrheb ei chyhoeddi
GwladCymru
IaithCymraeg
GenreDramâu Cymraeg
Dyddiad y perff. 1af1989

Drama lwyfan gan Cefin Roberts yw Janine, a lwyfannwyd gan Hwyl a Fflag ym 1989. Ffrwyth cystadleuaeth Tlws y Ddrama yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Dyffryn Conwy 1989 yw'r ddrama, a barodd gryn helynt yn ystod yr Ŵyl.

Helynt Eisteddfod 1989

[golygu | golygu cod]

Er nad oedd teilyngdod yng nghystadleuaeth Tlws y Ddrama yn Eisteddfod Genedlaethol Dyffryn Conwy 1989, teimlai dau o'r tri beirniad - John Ogwen, Bob Roberts ac Wyn Bowen Harris, bod dwy ddrama allan o'r deg yn codi uwch law y gweddill "siomedig iawn".[1] Teimlai John Ogwen mai dim ond un ddrama oedd yn addawol.

Rhan o'r wobr y flwyddyn honno oedd i lwyfannu'r ddrama fuddugol gan gwmni theatr Hwyl a Fflag. Ond methwyd â chytuno ar yr enillydd.

Roedd Bob Roberts a Wyn Bowen Harris yn ffafrio'r ddrama Janine: "Nid ydym, fel beirniaid, yn gytûn o gwbl ar rinweddau a ffaeleddau'r ddrama hon. Mae Wyn Bowen Harries yn ystyried bod y ddrama'n cynnwys enghreifftiau o ddehongli cynnil a hiwmor effeithiol a'i bod ar ei gorau pan fo'n awgrymu'r tensiynau sydd dan groen y cymeriadau. Mae ef hefyd yn ystyried bod potensial theatrig sylweddol yng nghymeriad Janine, ond bod angen datblygu ac egluro cymhellion y cymeriad ymhellach."[1]

"Mae John Ogwen, ar y llaw arall, yn teimlo bod y ddrama'n tueddu i droi yn ei hunfan a bod rhai o'r dyfeisiadau storiol (e.e., dylanwad y coffi rhyfeddol, y defnydd o'r teleffon a dawns anhygoel Janine) yn arwydd o straenio am effaith yn hytrach na chreu elfennau dramatig. Mae ef yn ystyried bod trawsnewid annisgwyl Janine yn anghredadwy, yn arbennig gan nad oes dim yn y sgript i gyfiawnhau hynny. Nid yw ef yn ei hystyried yn un o'r ddwy orau yn y gystadleuaeth."[1]

"Mae Bob Roberts yn teimlo bod agoriad y ddrama'n creu chwilfrydedd ac yn codi gobeithion nad ydynt yn cael eu gwireddu yng nghorff y ddrama. Mae'n ystyried bod y ddeialog yn rhythmig a naturiol, os braidd yn sathredig ac anghyson mewn mannau. Mae'n teimlo hefyd fod y cymeriadau'n ystrydebol, at ei gilydd. [...] Mae ef, fel John Ogwen, yn ei chael yn anodd iawn i ddeall beth yw'r alcemïaeth ryfeddol sy'n gallu troi geneth, ar amrantiad megis, o fod yn hen hoeden fach cwbl wyneb-galed, afreolus a bras ei thafod i fod yn eneth gymharol normal a dymunol. Mae'n anodd gweld sut y mae'r ffenomen arbennig na'n mynd i weithio ar lwyfan heb greu penblethod yn y gynulleidfa. Mae'n deg cyfaddef hefyd, wrth gwrs, mai dyna efallai yw'r pwrpas."[1]

"Mae dau ohonom, sef Wyn Bowen Harries a Bob Roberts, yn credu bod dwy ddrama, sef Janine a Berwi Wy [gan Dewi Wyn Williams a ddaeth i'r llwyfan maes o law fel y ddrama Leni] yn haeddu ystyriaeth bellach. Mae John Ogwen o'r farn mai Berwi Wy yn unig sydd yn haeddu ei hystyried ymhellach [...] Mae dau ohonom, sef John Ogwen a Bob Roberts, o'r farn nad oes yr un o'r dramâu a dderbyniwyd yn haeddu eu hanrhydeddu gyda Thlws y Ddrama. Dyfarniad terfynol John Ogwen yw nad yw'r un o'r dramâu yn haeddu'r wobr. Mae Bob Roberts yn credu, er gwaethaf y diffygion [...], fod awdur Berwi Wy yn haeddu canpunt or wobr ariannol fel cydnabyddiaeth o'r addewid sydd yn ei sgript. Mae Wyn Bowen Harries, ar y llaw arall, yn teimlo bod yna fwy o addewid yn Janine nag yn Berwi Wy a'i bod yn fwy addas i'w chyflwyno fel drama newydd yn rhaglen Ddrama'r Eisteddfod eleni. Mae ef, felly, yn argymell ei gwobrwyo. Gan mai Cwmni Hwyl a Fflag, o dan gyfarwyddyd Wyn Bowen Harries, sydd â'r cyfrifoldeb o lwyfannu'r ddrama fuddugol yn y gystadleuaeth hon, ac oherwydd ystyriaethau technegol ac ymarferol, cytunwyd bod ei sefyllfa ef fel Cyfarwyddwr yn cyfiawnhau rhoi'r llais terfynol iddo ef gan mai ganddo ef a'i gwmni y mae'r cyfrifoldeb o droi'r sgript yn darn o theatr. Ei ddewis ef yw cyflwyno'r ddrama Janine."[2]

"Mae'n biti fod mwy o ddrama wedi digwydd ynghylch y gystadleuaeth nag oedd ynddi", meddai John Ogwen, wrth Golwg [Medi 1989]. "Mae'r holl beth yn sawru o annhegwch", ychwanegodd.[3] Yn ôl John Ogwen, roedd hi'n gamgymeriad cael darpar-gyfarwyddwr y ddrama hefyd yn feirniad. "Dwi'n deall ei deimladau'n iawn", meddai. "Fyddai'r un cyfarwyddwr yn leicio cael drama wedi ei orfodi arno".[3]

Fe gafodd y ddrama Berwi Wy o waith Dewi Wyn Williams, ei llwyfannu yn ddiweddarach yr un flwyddyn. Cwmni Theatr Gwynedd oedd yn gyfrifol am ei chynhyrchu o dan yr enw newydd, Leni.

Disgrifiad byr

[golygu | golygu cod]

"Pwnc Cefin Roberts yn Janine ydi'r tensiynau sy'n bod o fewn priodasau dau bâr canol oed ifanc", yn ôl adolygydd y cynhyrchiad, Alun Ffred. "Mae'r ddrama hefyd yn trafod agweddau andwyol gwŷr a gwragedd at ei gilydd ac mewn ystyr ehangach mae'n trafod pobol yn cael eu caethiwo (gan briodas yma) o fewn rhigolau a chonfensiynau: maes ffrwythlon o ran syniadau, a gyda'i glust at ddeialog mae'r dramodydd yn Ilwyddo'n aml i fod yn ddifyr a doniol."

"Ar un olwg, mae Janine yn ddrama soffistigedig a theatrig ei naws," meddai'r tri beirniad yn yr Eisteddfod; "Mae'n cyfuno elfennau drama arswyd seicolegol a drama sy'n ymgais i ddehongli adwaith emosiynol dau gwpl ifanc sydd ar wyliau yn Ffrainc i sefyllfaoedd newydd ac annisgwyl. Y catalydd sy'n peri i emosiynau pawb arall yn y ddrama ferwi trosodd, megis, yw Janine, merch i un o'r cyplau sy'n ymddangos ar y dechrau fel geneth dwy ar bymtheg oed annymunol, wrthryfelgar a thra anfoesgar. Ond, cyn diwedd y ddrama, mae Janine yn wrthrych rhyw fetamorffosis rhyfeddol sydd bron yn wyrthiol, a dweud y lleiaf."[1]

Cymeriadau

[golygu | golygu cod]
  • Margaret
  • Maldwyn ei gŵr
  • Janine
  • Gŵr cwpl 2
  • Gwraig cwpl 2

Cynyrchiadau nodedig

[golygu | golygu cod]
Siân Wheldon yn y ddrama Janine gan Hwyl a Fflag 1989

Llwyfannwyd y ddrama gan Hwyl a Fflag yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Cymru Dyffryn Conwy 1989 ac wedyn ar daith yn yr Hydref. Cyfarwyddwr Wyn Bowen Harris; cast:

"Petai Janine ar brawf mewn llys barn, go brin y byddwn i'n cael bod yn un or rheithgor", noda Alun Ffred yn ei adolygiad yn Golwg [Medi 1989]. "Gan 'mod i'n Gymro Cymraeg ac yn trigo yng Nghymru yn ystod haf 89 byddai'r amddiffyniad yn siwr o ddal mod i - a miloedd eraill - yn rhagfarnllyd o gofio'r fath stŵr cecrus a chyhoeddus fu yn Eisteddfod Llanrwst ar gownt y ddrama. Mae'n werth cofio serch hynny nad y ddrama ei hun oedd achos y gynnen". [4]

"'Roedd ymateb parod y gynulleidfa a'r cyd chwarae rhwng Margaret a Maldwyn [...] yn awgrymu bod yma gomedi ysgafn grafog ar y gweill. OND: (Gair anhepgor i adolygydd sydd am achub ei gam a'i groen yn y Gymru glos sydd ohoni), dydi'r addewid cynnar ddim yn cael ei gynnal yn llwyddiannus hyd y diwedd. A ga' i fentro awgrymu mai cefndir proffesiynol yr awdur sy'n rhannol gyfrifol? Fel aelod o Bara Caws mae Cefin wedi gweithio'n gyson yn y theatr yn magu profiad eang fel perfformiwr, cyfarwyddwr ac awdur 'sioeau' o wahanol fathau. Mae dialog a dyfeisgarwch Janine yn tystio i hynny. Ond nid sioe ydi drama. Mae'r gofynion yn wahanol."[4]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Eisteddfod Genedlaethol Dyffryn Conwy. Llys yr Eisteddfod. 1989.
  2. Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Eisteddfod Genedlaethol Dyffryn Conwy. Llys yr Eisteddfod. 1989.
  3. 3.0 3.1 "Helynt Tlws Y Ddrama". Golwg 1. 7 Medi 1989.
  4. 4.0 4.1 Jones, Alun Ffred (21 Medi 1989). "Nid Croesi Cae... Alun Ffred a'r ddrama fu ynghanol ffrae". Golwg Cyfrol 2 Rhif 3.