Kamala Harris
Kamala Harris | |
---|---|
Portread swyddogol, 2021 | |
49eg Is-Arlywydd yr Unol Daleithiau | |
Deiliad | |
Cychwyn y swydd 20 Ionawr 2021 | |
Arlywydd | Joe Biden |
Rhagflaenwyd gan | Mike Pence |
Dilynwyd gan | JD Vance |
Seneddwr yr Unol Daleithiau dros California | |
Yn ei swydd 3 Ionawr 2017 – 18 Ionawr 2021 | |
Rhagflaenwyd gan | Barbara Boxer |
Dilynwyd gan | Alex Padilla |
32eg Twrnai Cyffredinol o California | |
Yn ei swydd 3 Ionawr 2011 – 3 Ionawr 2017 | |
Llywodraethwr | Jerry Brown |
Rhagflaenwyd gan | Jerry Brown |
Dilynwyd gan | Xavier Becerra |
27eg Atwrnai Dosbarth o San Francisco | |
Yn ei swydd 8 Ionawr 2004 – 3 Ionawr 2011 | |
Rhagflaenwyd gan | Terence Hallinan |
Dilynwyd gan | George Gascón |
Manylion personol | |
Ganwyd | Kamala Devi Harris 20 Hydref 1964 Oakland, California, UDA |
Plaid wleidyddol | Democratwr |
Priod | Doug Emhoff (pr. 2014) |
Llofnod |
Twrnai, gwleidydd o'r Unol Daleithiau a 49eg Is-Arlywydd yr Unol Daleithiau yw Kamala Devi Harris (ganed 20 Hydref 1964). Hi yw'r Is-Arlywydd benywaidd cyntaf yn ogystal a'r cyntaf o dras Affricanaidd a De Asia Americanaidd.
Ganed Harris yn Oakland, Califfornia, a graddiodd o Brifysgol Howard a Phrifysgol California, Coleg y Gyfraith Hastings.
Rhwng 2017 a 2021 roedd hi'n cynrychioli California fel is-seneddwr yr Unol Daleithiau. Yn aelod o'r Blaid Ddemocrataidd, bu gynt yn 27ain Twrnai Dosbarth San Francisco rhwng 2004 a 2011 a 32ain Twrnai Cyffredinol California rhwng 2011 a 2017. Cafodd ei ethol i'r Senedd yn etholiadau 2016 gan ddod yn yr ail fenyw Americanaidd Affricanaidd a'r gyntaf o gefndir Dde Asia Americanaidd i wasanaethu yn Senedd yr Unol Daleithiau.[1]
Ymgeisyddiaeth arlywyddol 2020
[golygu | golygu cod]Ar ôl misoedd o ddamcaniaethu, fe gyhoeddodd Harris ei hymgyrch am arlywydd yr Unol Daleithiau yn yr etholiad arlywyddol 2020 ar 21 Ionawr 2019.[2] Yn ystod y 24 awr gyntaf ar ôl ei chyhoeddiad, roedd Harris wedi cyrraedd record Bernie Sanders yn 2016 am godi'r swm mwyaf o arian mewn diwrnod.[3] Fodd bynnag, torrodd Sanders y record hon yn ddiweddarach ar ôl cyhoeddi ei ymgyrch arlywyddol 2020 ei hun.[4] Collodd Harris yr enwebiad hynny gyda Joe Biden yn dod i'r brig. Cafodd Harries ei nodi fel un o'r 'Top tier' gall Biden dewis ar gyfer ei bartner arlywyddol neu ymgeisydd Is-arlywydd.[5][6]
Ar 11 Awst 2020 ddewisodd Biden Harris fel ymgeisydd Is Arlywydd ar gyfer yr Democratiaid yn etholiad 2020.[7] Ar 7 Tachwedd 2020, daeth cyhoeddiad am bleidleisiau a gyfrwyd yn Philadelphia, Pennsylvania. Cyfrifwyd felly fod Biden a Harris wedi ennill y dalaith gyda mwyafrif o dros 0.5% a felly sicrhau dros 270 pleidlais yn y coleg etholiadol.[8]
Ymgeisyddiaeth Arlywyddol 2024
[golygu | golygu cod]Ym mis Gorffennaf 2024, tynnodd yr Arlywydd Biden yn ôl o'r gystadleuaeth i ennill enwebiad arlywyddol y Blaid Ddemocrataidd. Dwedodd y byddai'n cymeradwyo'r Is-Arlywydd Harris fel yr ymgeisydd newydd.[9] Ar 3 Awst, dewiswyd Harris yn ffurfiol fel enwebai'r Democratiaid. Hi yw'r fenyw ddu gyntaf a'r fenyw gyntaf o Dde Asia i sefyll ar ran plaid wleidyddol fawr yn yr Unol Daleithiau.[10] Ar 6 Awst, Harris mai llywodraethwr Minnesota, Tim Walz, fyddai hi ffrind rhedeg.
Collodd Harris yr etholiad ym mis Tachwedd. Cyhoeddodd Donald Trump fuddugoliaeth ar 6 Tachwedd, pan ddaeth i’r amlwg na allai Harris sicrhau’r taleithiau angenrheidiol.[11]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "My Story | U.S. Senator Kamala Harris of California". www.harris.senate.gov (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-10-14. Cyrchwyd 2020-08-03.
- ↑ CNN, Eric Bradner. "Kamala Harris signs book deal amid 2020 speculation". Cyrchwyd 12 Hydref 2018.
- ↑ "Kamala Harris raises $1.5 million in first 24 hours; ties record set by Sanders in 2016". Cyrchwyd 23 Ionawr 2019.[dolen farw]
- ↑ "Bernie Sanders raises 6 million in first 24 hours of campaign". Cyrchwyd 25 Chwefror 2019.
- ↑ Perks, Ashley (2020-07-29). "VP hopefuls jockey for position as Biden's final decision nears". TheHill (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-08-03.
- ↑ Laura Pullman, Philip Sherwell. "Veep hopeful Kamala Harris has history to rival Obama's" (yn Saesneg). ISSN 0140-0460. Cyrchwyd 2020-08-03.
- ↑ "Y ddynes groenddu Kamala Harris fyddai Dirprwy Arlywydd Joe Biden". Golwg360. 2020-08-12. Cyrchwyd 2020-08-12.
- ↑ Joe Biden yw enillydd ras arlywyddol yr Unol Daleithiau , Golwg360, 7 Tachwedd 2020.
- ↑ Shear, Michael (21 Gorffennaf 2024). "Biden Drops Out of Presidential Race, Endorses Harris". The New York Times (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 21 Gorffennaf 2024. Cyrchwyd 21 Gorffennaf 2024.
- ↑ "Dewis Kamala Harris yn ffurfiol fel enwebai'r Democratiaid yn yr Unol Daleithiau". newyddion.s4c.cymru. 2024-08-03. Cyrchwyd 2024-08-05.
- ↑ "Donald Trump yn ennill etholiad arlywyddol yr Unol Daleithiau". S4C. Cyrchwyd 6 Tachwedd 2024.
Swyddi gwleidyddol | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Mike Pence |
Is-Arlywydd Unol Daleithiau America 20 Ionawr 2021 – presennol |
Olynydd: deiliad |
Cyngres yr Unol Daleithiau | ||
Rhagflaenydd: Barbara Boxer |
Seneddwr dros Delaware gyda Dianne Feinstein 3 Ionawr 2017 – 18 Ionawr 2021 |
Olynydd: Alex Padilla |