Lisa Gwilym
Gwedd
Lisa Gwilym | |
---|---|
Ganwyd | 17 Mehefin 1975 |
Man preswyl | y Felinheli |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | cyflwynydd radio |
Cyflogwr | |
Priod | Llŷr Ifans |
Cyflwynwraig deledu a radio Cymraeg ydy Lisa Gwilym (ganwyd 17 Mehefin 1975).
Mae hi'n cyflwyno rhaglen bore ar BBC Radio Cymru 2 o dydd Llun i dydd Iau a rhaglenni FFIT Cymru a Dechrau Canu Dechrau Canmol ar S4C.
Roedd Lisa yn gyflwynydd rhaglen ieuenctid S4C, Uned 5, rhwng 2001 a 2004, ac yn gyflwynydd rhaglenni cerddoriaeth ar BBC Radio Cymru rhwng 2003 a 2022. Ar ôl gorffen cyflwyno Uned 5, daeth yn gynhyrchydd y rhaglen rhwng 2004 a 2006.
Yn y gorffennol, mae Lisa wedi cyflwyno Pethe, Planed Plant, Y Stiwdio Gefn a rhaglenni arbennig o noson Tan y Ddraig (o Ŵyl y Faenol), Gŵyl Jas Aberhonddu, Sesiwn Fawr Dolgellau ac Eisteddfod Genedlaethol Cymru ar gyfer S4C.
Mae'n briod â'r actor, Llŷr Ifans.