Llyfr Genesis
Llyfr cyntaf yr Hen Destament yn y Beibl, a'r Torah yw Llyfr Genesis neu Genesis (talfyriad: Gen.). O'r Lladin Llafar (Fwlgat) a siaredid yng nghyfnod yr Ymerodraeth Rufeinig y daeth y gair 'Genesis' i'r Gymraeg, ac o'r gair Groeg Γένεσις, sy'n golygu 'tarddiad' neu'r 'dechreuad', y daeth i'r Lladin. בראשית (Bərēšīṯ) yw'r gair Hebraeg am 'Yn y dechreuad', sef yr enw ar y llyfr cyntaf yn y Beibl Hebraeg, y Tanakh a'r Hen Destament Cristnogol. Yn ôl y traddodiad Iddewig cafodd y llyfr ei ysgrifennu gan Moses, ond gwyddom heddiw ei fod yn waith sawl awdur diweddarach.
Cynnwys
[golygu | golygu cod]Mae Llyfr Genesis yn dechrau trwy ddisgrifio sut y creodd Duw y byd mewn saith niwrnod, hanes Adda ac Efa a'u danfon allan o Ardd Eden, stori Cain ac Abel eu meibion, a hanes Noa a'r Dilyw. Mae llawer o'r storïau hyn yn rhan o etifeddiaeth llên gwerin a mytholeg y Lefant a Mesopotamia.