Neidio i'r cynnwys

Rebecca Romero

Oddi ar Wicipedia
Rebecca Romero
Ganwyd24 Ionawr 1980 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Surrey
  • Wallington High School for Girls
  • St Mary's University, Twickenham Edit this on Wikidata
Galwedigaethseiclwr trac, seiclwr cystadleuol, rhwyfwr Edit this on Wikidata
Taldra180 centimetr Edit this on Wikidata
Pwysau73 cilogram Edit this on Wikidata
Gwobr/auMBE Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.rebeccaromero.co.uk/ Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Gwlad chwaraeony Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata

Seiclwraig trac a chyn rhwyfwr o Loegr ydy Rebecca Romero (ganwyd 24 Ionawr 1980, Twickenham, Llundain Fwyaf),[1] a enillodd fedal arian yn rhwyfo quadruple sculls Gemau Olympaidd 2004 yn Athen. Y flwyddyn ganlynol roedd hi'n aelod o dîm Prydain a enillodd Pencampwriaethau'r Byd quadruple sculls yn Gifu, Japan.

Yn 2006, penderfynodd Romero ymddeol o'r byd rhwyfo, yn rhannol oherwydd problemau gyda'i chefn, a dechreuodd seiclo gyda'r bwriad o ennill ail fedal Olympaidd mewn chwaraeon gwahanol.

Yn Rhagfyr 2006, enillodd fedal arian yng nghymal Moscow, Cwpan y Byd Trac UCI, ei ras seiclo rhyngwladol gyntaf, gan golli allan ar yr aur i'w chyd Brydeinwraig, Wendy Houvenhagel. Cystadlodd Romero a Houvenhagel erbyn ei gilydd unwaith eto yn y rownd derfynol yng nghymal Manceinion yn Ebrill 2007.[2]

Enillodd fedal ym Mhencampwriaethau seiclo'r Byd am y tro cyntaf ym mis Mawrth 2007 gydag arian yn y Pursuit.[3] Fe aeth cam ymhellach ym Mehncampwriaethau'r Byd 2008, gan ennill y fedal aur, a medal aur ychwanegol fel rhan o dîm pursuit merched gan osod record newydd y byd yn y broses mewn amser o 3:22.415.[4]

Mae Rebecca yn byw yn High Wycombe, Swydd Buckingham.

Canlyniadau

[golygu | golygu cod]

Rhwyfo

[golygu | golygu cod]
Gemau Olympaidd
2004 – Silver, Quadruple Sculls (gyda Frances Houghton, Debbie Flood & Alison Mowbray)
Pencampwriaethau Rhwyfo'r Byd
2005 – 1af, Quadruple Sculls (gyda Katherine Grainger, Frances Houghton & Sarah Winkless)
2003 – 4ydd, Double Sculls
2002 – 5ed, Quadruple Sculls
2001 – 5ed, Quadruple Sculls
Pencampwriaethau'r Byd Odan 23
2000 – 1af, 2-
1999 – 4ydd, 1x

Seiclo

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Proffil ar wefan swyddogol Gemau Olympaidd Prydain". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-08-31. Cyrchwyd 2007-10-09.
  2. Pendleton sets new British record BBC 24 Chwefror 2007
  3. Pursuit quartet and Hoy take gold BBC 30 Mawrth 2007
  4. World Track Cycling: Rebecca Romero record, Brendan Gallagher 27 Mawrth 2008[dolen farw]

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]