Ruth Jên
Ruth Jên | |
---|---|
Ganwyd | 7 Hydref 1964 Aberystwyth |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | arlunydd |
Gwefan | http://www.ruthjen.co.uk/ |
Mae Ruth Jên (ganed Ruth Jên Evans yn Aberystwyth 1964)[1] yn arlunydd o Gymru sy'n byw a gweithio yn yr hen siop sgidie ym mhentref Tal-y-bont yng Ngheredigion.
Cafodd hi'w magu yng Nghefn Llwyd.[1] Astudiodd radd sylfaen yng Nghaerfyrddin cyn gwneud gradd celfyddyd gain yng Ngholeg Celf Caerdydd[2] (1983-1987), yn arbenigo maen argraffu. Wedi gorffen ei hastudiaethau, dychwelodd i Aberystwyth a gweithiodd am gyfnod gyda'r Academi Gymreig a gwneud gwaith llawrydd ar gyfer cloriau llyfrau'r Lolfa.[2] Paentiodd Ruth y murlun cyntaf yn Nhal-y-bont yn 1991,[2] ar ochr hen adeilad y Lolfa.
Enillodd hi'r Wobr Josef Herman "Dewis y Bobl" yn yr Eisteddfod Gynedlaethol 2023 in Boduan. Creodd 600 o greaduriaid clai ar gyfer ei harddangosfa yn Y Lle Celf.[3]
Gwobrau ac anrhydeddau
[golygu | golygu cod]- Gwobrau Dylunio Dwyieithog Bwrdd Yr Iaith Gymraeg 2002
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 Ruth Jên - Bywgraffiad. Oriel y Bont (Aberystwyth). Adalwyd ar 2 Awst 2024.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 Proffeil Arlunydd - Ruth Jên Evans. BBC (2009). Adalwyd ar 3 Awst 2024.
- ↑ (Saesneg) Aberystwyth artist wins People’s Choice award for ceramic artwork. Nation.Cymru (12 Awst 2023). Adalwyd ar 2 Awst 2024.