Neidio i'r cynnwys

Wilbert Lloyd Roberts

Oddi ar Wicipedia
Wilbert Lloyd Roberts
Ganwyd1926 Edit this on Wikidata
Llanberis Edit this on Wikidata
Bu farw1996 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethcynhyrchydd radio, cynhyrchydd theatrig Edit this on Wikidata

Cynhyrchydd drama o Gymru oedd Wilbert Lloyd Roberts (1926 – Tachwedd 1996). Sefydlodd y cwmni proffesiynol Cymraeg cyntaf – Cwmni Theatr Cymru yn yr 1960au.[1]

Wilbert Lloyd Roberts yn edmygu adeiladau Theatr Gwynedd 1973

Ganwyd Wilbert yn 7 Rhes y Faenol, Llanberis. Yn 2017 gosodwyd plac ar y tŷ yn ei ddisgrifio fel 'Arloeswr y theatr Gymraeg'.[2]

Cefndir

[golygu | golygu cod]

Fe’i hapwyntiwyd yn gynhyrchydd drama radio gyda BBC Cymru tua chanol y pumdegau. Ar y pryd roedd cnewyllyn bychan o actorion proffesiynol yn nhair canolfan BBC Cymru ym Mangor, Abertawe a Chaerdydd. Er hynny amaturiaid brwdfrydig oedd y mwyafrif o berfformwyr ym myd y ddrama. Llwyddodd Wilbert i ddenu cnwd o actorion amatur i weithio ar lwyfan, ar y radio, ac yn ddiweddarach i ymgodymu â sialens newydd y stiwdio deledu.

Yn 1965, fel cyfarwyddwr o adran Gymraeg y 'Welsh Theatre Company', teithiodd ei gynhyrchiad o Cariad Creulon o gwmpas Cymru dan yr enw Cwmni Theatr Cymru. Yn ogystal, cychwynnodd Wilbert gylchgrawn theatr o'r enw Llwyfan.[3]

Erbyn 1968 sefydlwyd Cwmni Theatr Cymru fel cwmni annibynnol gyda hen gapel Tabernacl, Bangor yn gartref i'r cwmni.[4] Ar y cychwyn cynigiwyd contract llawn-amser i dri actor - Beryl Williams, Gaynor Morgan Rees a John Ogwen.

Yn 1974, wedi trafodaethau hir gyda Phrifysgol Bangor, sefydlwyd Theatr Gwynedd a daeth Wilbert yn gyfarwyddwr cyntaf y sefydliad.

Wedi cyfnod cythryblus i Gwmni Theatr Cymru, ymddiswyddodd Wilbert yn 1982. Wedi hynny arweiniwyd y cwmni gan Emily Davies wedi ei chynorthwyo gan Ceri Sherlock. Daeth Cwmni Theatr Cymru i ben yn Ionawr 1984 pan diddymwyd eu grant gan Gyngor y Celfyddydau.

Caewyd Theatr Gwynedd yn Hydref 2008 a datblygwyd cynlluniau am theatr newydd fel rhan o gynllun Pontio, a agorodd yn 2015. Yn Rhagfyr 2016, dadorchuddiwyd gerflun o Wilbert sydd wedi ei osod yn barhaol yn nghanolfan Pontio.[5]

Yn dilyn ei ymddeoliad o'r theatr, cychwynodd gwmni teledu annibynnol ‘Ffenics’.[3]

Wedi ei farwolaeth yn 1996 sefydlwyd ysgoloriaeth goffa iddo yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Fe'i gyflwynwyd am y tro cyntaf yn 1999 ac mae'n gwobrwyo y cystadleuydd mwyaf addawol er mwyn iddo/iddi ddatblygu gyrfa fel perfformiwr theatrig broffesiynol.

Yn ôl yr actor Dyfan Roberts, cyn aelod o Gwmni Theatr Cymru, "Bu ffrwydriad creadigol ym myd y theatr a’r teledu yng Nghymru yn y chwedegau, cyffro a ymgorfforwyd i raddau helaeth ym mherson Wilbert Lloyd Roberts. Dawn fawr Wilbert oedd ei dalent fel Galluogwr. Trefnydd. Gwneud i bethau digwydd". [6]

Diolchodd Saunders Lewis hefyd i Wilbert a'r actorion oedd yn rhan o'r cynhyrchiad cyntaf o Cymru Fydd ym 1967: "Cefais y fantais o ddiwygio'r ddrama hon yn ystod tridiau o baratoi ac ymarfer da yn Y Felinheli gydag actorion a chynhyrchydd y Cwmni Theatr Cymraeg. Y mae Mr Wilbert Lloyd Roberts a phob un o'r actorion wedi helpu i wella rhyw ran o'r dialog neu ddywediad neu frawddeg neu weithred. Dyma'r math o gydweithio sydd wrth fodd calon dramaydd".[7]

Disgrifiodd yr actor a'r dramodydd Meic Povey ef fel "dyn mawr; yn ddyn â gweledigaeth; y fo, yn anad neb, ydi tad y theatr Gymraeg fodern."[8]

Bywyd persono

[golygu | golygu cod]
Wilbert Lloyd Robert yn swyddfa Cwmni Theatr Cymru 1971

Roedd yn briod a Beti (1927-2008) a cawsant ddau o blant, Ann Llwyd a Elin Roberts-Puw.[9]

[detholiad]

Theatr

[golygu | golygu cod]

[fel Cynhyrchydd a Chyfarwyddwr]

1960au

[golygu | golygu cod]
Clawr Rhaglen Alpha Beta (1974)
Rhaglen Harris (1973) gan Islwyn Ffowc Elis

1970au

[golygu | golygu cod]

1980au

[golygu | golygu cod]
  • Oidipos Frenin (1980)

Teledu

[golygu | golygu cod]

[fel Cynhyrchydd]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1.  Owen, George (Rhagfyr 1996/ Ionawr 1997). TEYRNGED - Wilbert, arloeswr. Barn.
  2. Eco'r Wyddfa Nadolig 2017
  3. 3.0 3.1 Bangor's Pontio Arts and Innovation Centre unveils sculpture in memory of Wilbert Lloyd Roberts (en) , Daily Post, 19 Rhagfyr 2016. Cyrchwyd ar 3 Ebrill 2023.
  4. (Saesneg) Theatr Cymru 1972 – 1984. Blog Martin Morley (16 Medi 2018).
  5. Theatre founder Wilbert Lloyd Roberts sculpture unveiled (en) , BBC News, 19 Rhagfyr 2016.
  6. "Beryl – Y Rhyfeddod Prin gan Dyfan Roberts; atodiau theatr bARN cyfrol 502, Tachwedd 2004". www.theatre-wales.co.uk. Cyrchwyd 2024-08-27.
  7. Lewis, Saunders (1991). Cymru Fydd. ISBN 0 7154 0317 6.
  8. Povey, Meic (2010). Nesa Peth I Ddim - hunangofiant Meic Povey. Carreg Gwalch. ISBN 9781845 272401.
  9.  Dadorchuddio cerflun o Wilbert Lloyd Roberts. Pontio (18 Rhagfyr 2016). Adalwyd ar 4 Ebrill 2023.