William Ambrose Bebb
William Ambrose Bebb | |
---|---|
Ganwyd | 4 Gorffennaf 1894 Goginan |
Bu farw | 27 Ebrill 1955 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | hanesydd, gwleidydd |
Plant | Lowri Williams, Dewi Bebb |
Gwleidydd, llenor a hanesydd o Gymru oedd William Ambrose Bebb (4 Gorffennaf 1894 – 27 Ebrill 1955); roedd yn awdur nifer o lyfrau Cymraeg (gweler isod) ac yn gyd-sefydlydd Plaid Cymru. Safodd ar ran y Blaid yn Etholiad 1945 a daeth yn drydydd.[1] Yn 1939 enillodd sedd ar Gyngor Dinas Bangor, fel aelod o Blaid Cymru a bu'n sefydlydd ac yn olygydd cylchgrawn y Blaid: Y Ddraig Goch yn ogystal â bod yn un o'i harweinwyr.
Roedd yn dad y chwaraewr rygbi Dewi Bebb. Mae'r gwleidydd Ceidwadol Guto Bebb yn wŷr iddo.
Magwraeth
[golygu | golygu cod]Cafodd ei eni ym Mlaendyffryn, Goginan, Ceredigion i deulu o ffermwyr, ac yn fab i'r dyddiadurwr [angen ffynhonnell] Edward Hughes Bebb ac Ann ei wraig. Symudodd y teulu i "Gamer Fawr", Tregaron ble'r aeth i'r ysgol, gan gychwyn yn yr ysgol uwchradd ym Medi 1908.[2]
Priododd Eluned Pierce Roberts yn 1931, merch o Langadfan Powys a bu iddynt saith o blant.
Addysg
[golygu | golygu cod]Wedi cyfnod yn Ysgol Uwchradd Tregaron, mynychodd Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth lle graddiodd yn y Gymraeg a hanes a gradd Meistr yn dilyn hynny.
Yn Aberystwyth y blagurodd ei agwedd genedlaetholgar gref. Bu'n olygydd Y Wawr, sef cylchgrawn gan y myfyrwyr a meiddiodd ddadlau achos Gwrthryfel y Pasg, 1916, yn Iwerddon, a chefnogi'r rhai oedd yn gwrthod mynd i'r lluoedd arfog ar dir cydwybod. Roedd hyn yn ddewr, o gofio cyd-destun y gweithgarwch hwn: y Rhyfel Byd Cyntaf. Gwaharddwyd y cylchgrawn gan awdurdodau'r coleg.
Yn 1920 ymwelodd â Llydaw am y tro cyntaf, profiad a drysorodd ac a wnaeth argraff arno am weddill ei oes. Dechreuodd astudio ym Mhrifysgol Rennes ond gadawodd wedi ychydig wythnosau oherwydd prinder adnoddau a chefnogaeth a daliodd y trên i Baris lle y bu'n fyfyriwr ac yn ddarlithydd yn y Collège de France yn y Sorbonne.[3] Arwyddair y Collège oedd Docet Omnia, sef y Lladin am "Dysgir popeth", a'i amcan oedd (fel y dywedodd Maurice Merleau-Ponty): "Nid y gwirioneddau ond yr hawl i'w hymchwilio."[4] Bu Bebb ym Mharis am dair blynedd. Yno hefyd y dylanwadwyd arno gan aelodau o fudiad asgell dde L'Action Française - gan bobl fel Léon Daudet a Charles-Marie-Photius Maurras.
Tra roedd yn darlithio ym Mharis cyhoeddodd erthyglau gwleidyddol yn Y Llenor, Y Geninen, Y Faner, Tyst a'r cylchgrawn Cymru yn trafod dyfodol y Gymraeg a Chymru, ac mor gynnar ag 1923 dangosodd fod ymreolaeth yn angenrheidiol. Gosododd gynsail i sefydlu Plaid Genedlaethol Cymru (sef Plaid Cymru) ym Mhwllheli yn Awst 1925. Ym Mehefin 1926 sefydlwyd llais i'r blaid newydd: Y Ddraig Goch. Erthygl gan Bebb oedd ar dudalen cyntaf y rhifyn cyntaf, a Bebb oedd golygydd ar y rhifynnau cynnar; bu'n aelod o'r bwrdd golygyddol hefyd.
Gadawodd Ffrainc yn 1925 a dychwelodd i Gymru lle y bu'n darlithio Cymraeg, hanes ac ysgrythur yng Ngholeg y Normal, Bangor.
Y llenor
[golygu | golygu cod]Graddiodd mewn Cymraeg a hanes ac mae'r ddwy thema'n cyfrodeddu drwy ei waith; ar adegau, fel gyda'r nofel hanesyddol Calendr coch (1946), mae'n anodd gwybod ai hanes ffeithiol ynteu dychmygol sydd yma. Gogoniant y llyfrau hyn yw eu natur 'diamser' - sy'n eu codi'n uwch na llawer o lyfrau'r cyfnod ac yn parhau heddiw i fod mor afaelgar a phan cawsant eu hysgrifennu.
Roedd yn arbennig o hoff o Ffrainc, hefyd, yn enwedig o ran ei diwylliant a'i meddwl agored, gwlad a oedd wedi cyfrannu gymaint i wareiddiad Ewrop ac ysgrifennodd Bebb yn helaeth amdani. Fe'i carodd yn angerddol, a'i chasau yr un pryd am y ffordd roedd wedi trin y Llydawyr.
Yn ôl Saunders Lewis a ysgrifennodd amdano yn y Bywgraffiadur Cymreig: Byddai'n defnyddio geiriau llafar ei dafodiaith ef ei hun yn helaeth, ac yn cyfosod geiriau, a'r rheini'n fynych wedi eu cyflythrennu, nes creu'r argraff o afiaith a bwrlwm, a'r cyfan o ran y pleser o ysgrifennu neu er mwyn cyfleu ei neges, boed honno'n ddisgrifiad o ddarn o wlad neu'n fynegiant o ryw egwyddor bwysig y mynnai ef ei gosod yn ddiogel ym meddyliau ei ddarllenwyr. Dywedodd y beirniad llenyddol Robin Chapman amdano mai cymwynas fawr Bebb oedd "poblogeiddio hanes Cymru i'r darllenydd cyffredin".[5]
Llydaw
[golygu | golygu cod]Ers 1920 roedd Bebb wedi syrthio mewn cariad gyda Llydaw ac ymwelodd â hi droeon wedi hynny. Dysgodd y Llydaweg a daeth yn gyfaill agos i nifer o Lydawyr. Cyfrannodd lawer o erthyglau i'r cylchgrawn cenedlaetholgar Breiz Atao a ffrwyth y llafur hwn o'i hadnabod mor drylwyr oedd tri llyfr: Llydaw (1929), Pererindodau (1941) a Dydd-lyfr pythefnos (1939), sef hanes ei daith trwy Lydaw yn ystod y pythefnos olaf cyn dechrau'r Ail Ryfel Byd.
-
W. Ambrose Bebb 1884-1955 gan Lowri Williams (Cyhoeddiadau Barddas)
-
Y cylchgrawn Llydewig Breiz Atao, 1944
-
Bedd Ambrose Bebb ym mynwent Glanadda, Bangor.
Cyflwr y genedl
[golygu | golygu cod]Wrth i'r Ail Ryfel Byd ddod i ben, trodd ei syniadaeth o genedlaetholdeb iaith a diwyddliant i'w chyflwr ysbrydol. Trodd gobaith y genedl o'r Blaid i'r Ysgol Sul a gwelir hyn yn glir mewn cyfres o erthyglau a gyhoeddodd yn Yr Herald Cymraeg yn 1953 (a'u hatgynhyrchu yn Yr Argyfwng yn 1955. Mae'n bosibl mai mynd yn hŷn oedd yn gyfrifol am y newid meddwl hwn yn ogystal â gweld y newid cymdeithasol arswydus a ddilynodd y Rhyfel. Mae'n bosib hefyd mai'r hyn a'i ffrwynodd ac a'i fygodd yn bennaf oedd adwaith yr Awdurdodau i'w lyfrau ar Lydaw.
Cyhoeddiadau
[golygu | golygu cod]- Llydaw (1929)
- Crwydro'r Cyfandir (1936)
- Y Ddeddf Uno, 1536 (1937)
- Pererindoddau (1941)
- Machlud yr Oesoedd Canol (1951)
- Machlud y Mynachlogydd
- Y Baradwys bell (1941) - dyddiadur dychmygol un o'i hynafiaid yn y flwyddyn 1841
- Gadael tir (1948) - dilyniant i'r Baradwys Bell ble gwelir yr un cymeriad yn ymfudo i America yn 1847
- Dial y tir (1945) - nofel am nifer o wŷr a gwragedd o Faldwyn a ymfudodd i America yn niwedd y 18fed a'r 19g
- Lloffion o ddyddiadur (1941)
- Dyddlyfr 1941 (1942)
- Calendr coch (1946), cofnod o'i ymgyrch fel ymgeisydd seneddol dros Blaid Cymru yn 1945.
Cyfieithiadau o'r Ffrangeg
[golygu | golygu cod]- Mudandod y môr gan Vercors (1944)
- Geiriau Credadun (gan Hugues Félicité Robert de Lamennais) (1921).
Astudiaethau
[golygu | golygu cod]- Lowri Williams (gol.), Bro a Bywyd: W. Ambrose Bebb 1884-1955 (Cyhoeddiadau Barddas, 1995)
- Robin Humphreys (gol.), Lloffion o Ddyddiaduron 1920-1926 Ambrose Bebb(Gwasg Prifysgol Cymru, 1996)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Y Bywgraffiadur Cymreig Ar-lein; Gwefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru; adalwyd 28 Ebrill 2015
- ↑ "E. Wyn James, '"Gweld gwlad fawr yn ymagor": Breuddwyd Cyffrous G. J. Williams a Saunders Lewis' - sy'n trafod dylanwad S. M. Powell ac Ysgol Tregaron ar rai o arweinwyr cynnar Plaid Cymru".
- ↑ Gwyddoniadur Cymru; Gwasg Prifysgol Cymru; 2008
- ↑ "Non pas des vérités acquises, mais l'idée d'une recherche libre". Mae'r frawddeg gyflawn, sydd wedi'i hysgrifennu mewn llythrynnau aur ar wal Neuadd y Coleg yn mynegi: "Ce que le Collège de France, depuis sa fondation, est chargé de donner à ses auditeurs, ce ne sont pas des vérités acquises, c'est l'idée d'une recherche libre." Cofnodwyd o ddarlith gan Merleau-Ponty yn y Collège de France, yn: Maurice Merleau-Ponty, Éloge de la philosophie et autres essais, Paris: Gallimard, 1989, tud. 13.
- ↑ www.tumblr.com; adalwyd 29 Ebrill 2015