Neidio i'r cynnwys

Wyneb yn Wyneb (drama)

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Wyneb Yn Wyneb (drama))
Wyneb yn Wyneb
AwdurMeic Povey
CyhoeddwrCAA a Dalier Sylw
GwladCymru
IaithCymraeg
Dyddiad cyhoeddi1993 (gwreiddiol) / 2024 (ail gyhoeddi)
Pwncperthynas hoyw ac AIDS
GenreDramâu Cymraeg
CyfresDramâu Dalier Sylw

Drama lwyfan o 1993 gan Meic Povey yw Wyneb yn Wyneb. Mae'n ddrama deimladwy am berthynas gariadus rhwng dau ddyn yng Nghymru yn y 1980au a'r 1990au, ac effaith y berthynas honno ar fam un ohonynt. Llwyfannwyd y ddrama gan Dalier Sylw ym 1993 a'i chyhoeddi gan CAA a Dalier Sylw yr un flwyddyn. Ail gyhoeddwyd y ddrama gan Atebol yn 2024.[1]

Clawr cyhoeddiad 2024 gan Atebol

Disgrifiad byr

[golygu | golygu cod]

Carwriaeth 'anghonfensiynol' ydy'r un rhwng Tom a Steff, ond nid yw'n llai angerddol na'r cariad sy'n bodoli rhwng Laura a Tom, sef cariad mam a mab, yr un mwyaf grymus ohonyn nhw i gyd o bosibl.

"Fe welwn driongl o densiynau teuluol, wrth iddyn nhw geisio dygymod â phroblemau sy'n hollol berthnasol i unigolion ein hoes ni. Calon y ddrama ydy sialens Laura i ddygymod â chariad y ddau fachgen, fel aelod o gymdeithas bentrefol glòs. Daeth Steff i'r canol fel bygythiad, ac fe welwn Meic Povey yn ymdrin yn sensitif â themâu sydd wedi ei ddiddori erioed sef euogrwydd a rhagrith. Drama rymus, sy'n 'ymestyn y cyffro hyd y diwedd trwy gynildeb ac ysgrifennu sensitif rhwng dim ond tri chymeriad.' "[1]

Cefndir

[golygu | golygu cod]

"I rhyw raddau, mae pob dramodydd yn tynnu ar brofiadau personol i'w sbarduno a'i gynnal ar hyd y daith greadigol", medde Meic Povey yn rhaglen y cynhyrchiad o 1993.

"Dyna, efallai, yw ei raison d'être: mynd i'r 'afael â fo'i hun, mesur a didoli ei deimladau a'i emosiynau dynaf, cyn eu hail gyflwyno mewn ffurf dramatig. Pam felly Wyneb yn Wyneb? Yn bennaf, am wn i, am y cyfle i ymdrin â rhagrith ac euogrwydd, meysydd sydd wedi fy niddori erioed. Mae'r garwriaeth rhwng Tom a Steff yn 'anghonfensiynol' - beth yw ystyr 'confensiynol' yn y byd sydd ohoni, Duw a ŵyr - ond nid yw'r cariad sy'n bodoli rhwng y ddau yn ddim llai angerddol na'r cariad sy'n bodoli rhwng Laura a Tom, sef cariad mam a mab, yr un mwyaf grymus ohonynt i gyd o bosib. Y brif sialens i Laura - a chalon y ddrama - yw derbyn bod cariad Steff tuag at Tom yr un mor arwyddocaol a dilys ac ydy ei chariad hi tuag ato fo. Dyna'r bont enfawr mae'n ofynnol iddi hi ei chroesi.Tybed a lwyddith hi? Tybed a wnawn ni? Cyflwynir y ddrama hon i Martin ac Ashley."[2]

Cymeriadau

[golygu | golygu cod]
  • Tom
  • Steff
  • Laura - mam Tom
Rhaglen cynhyrchiad Dalier Sylw o 1993

Cynyrchiadau nodedig

[golygu | golygu cod]

Llwyfannwyd y ddrama gan Dalier Sylw ym 1993 gyda Bethan Jones yn cyfarwyddo a Ceri James yn cynllunio; Cast:

"Go brin y llwyfennir drama gyfoes bwysicach na hon yn y Gymraeg eleni", oedd ymateb Aled Islwyn yn Y Cymro; "Camodd y cynhyrchiad trwy'r hiwmor a'r gwrthdaro gyda gosgeiddrwydd hunan-hyderus . Trwy ddewis y tawel yn hytrach na'r ymfflamychol, datgelwyd haenau'r ddrama y naill ar ôl y llall. Proses ofalus, gywrain sy'n arwain at gignoethni", ychwanegodd.[3]

Dafydd Dafis a Danny Grehan yn Wyneb yn Wyneb 1993

Cafwyd adolygiad arall gan y dramodydd Emyr Edwards yn Golwg: "Mae yna gymaint sydd yn gofiadwy yn y cyflwyniad hwn o ddrama ddiweddara' Meic Povey, yn glywadwy ac yn weladwy, fel ei bod hi'n amhosib osgoi'r casgliad bod yna briodas ddisglair yma rhwng dramodydd a chwmni, ac bydd hyn yn achlysur y bydd llawer yn ei gofio am amser maith yn y theatr Gymraeg".[3]

Cyfeiriodd adolygydd theatr Y Cymro - Paul Griffiths, at y cynhyrchiad yma, wrth adolygu drama Dafydd James Llwyth, yn 2010: "Wyneb yn Wyneb o waith Meic Povey oedd y tro dwetha imi gofio ymdriniaeth onest, sensitif a phwerus o garwriaeth hoyw ar lwyfan theatr yn y Gymraeg. Drwy gymorth yr actorion Dafydd Dafis, Danny Grehan ac Olwen Rees fel y fam, a chyfarwyddo meistrolgar Bethan Jones ar ran Dalier Sylw, fe arhosodd naws a neges y ddrama efo mi hyd heddiw."[4]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 "Wyneb yn Wyneb (Drama) | Atebol". Cyrchwyd 2024-09-11.
  2. Rhaglen cynhyrchiad Dalier Sylw o Wyneb Yn Wyneb. 1993.
  3. 3.0 3.1 "wyneb yn wyneb - archif sioeau Dalier Sylw". www.users.globalnet.co.uk. Cyrchwyd 2024-09-11.
  4. "Paul Griffiths". paulpesda.blogspot.com (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-09-11.