Neidio i'r cynnwys

Bethan Jones (cyfarwyddydd)

Oddi ar Wicipedia
Bethan Jones
GanwydBethan Elwyn Jones
1956
Rhosllannerchrugog
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma materYsgol Morgan Llwyd
Galwedigaethcyfarwyddydd theatr a chynhyrchydd teledu
Cysylltir gydaDalier Sylw a Pobol Y Cwm

Actores, cyfarwyddydd theatr a chynhyrchydd teledu yw Bethan Jones (ganwyd 1956), sy'n enedigol o Rosllannerchrugog. Un o sylfaenwyr cwmni theatr Dalier Sylw, fu'n weithgar iawn yng Nghymru yn y 1990au. Cyfarwyddodd Bethan nifer o ddramâu beiddgar a dylanwadol, gan gynnwys llwyfaniad cyntaf o ddramâu Meic Povey (Wyneb Yn Wyneb, Tair a Fel Anifail) a dramâu newydd gan Geraint Lewis, Gareth Miles a Siôn Eirian. Wedi i Dalier Sylw ddod i ben, bu'n Gynhyrchydd ar y gyfres Pobol y Cwm, ac yn Uwch Gynhyrchydd ar sawl cyfres deledu uchelgeisiol i'r BBC fel addasiadau o'r nofelau War And Peace a Les Misérables. Cafodd ei henwebu am ddwy Wobr Emmy am ei gwaith.[1] Derbyniodd Wobr y Fonesig Siân Phillips gan BAFTA Cymru yn 2019.[2]

Derbyniodd ei haddysg yn Ysgol Morgan Llwyd ble bu'r dramodydd Gareth Miles yn athro arni.[3] Dechreuodd ei gyrfa fel actores, a bu'n rhan o gyfresi cynnar S4C fel Coleg a Dinas. Bu'n cyfarwyddo gyda chwmniau theatr fel Moving Being. Ymunodd â BBC Cymru fel cynhyrchydd drama yn 2002 yn bennaf ar y gyfres Pobol Y Cwm, cyn cael ei phenodi yn Uwch Gynhyrchydd Drama gan BBC Cymru yn 2005.[2] Sefydlodd sawl cwmni cynhyrchu ffilm a theledu.[4] Sefydlodd gwmni ffilm Red Seam ar y cyd â'r actor Michael Sheen a bu'r ddau yn cynhyrchu'r gyfres deledu The Way.[5] Bu'n gweithio i gwmnïau annibynnol fel Cuba Pictures, Playground Entertainment a Little Door Productions.[6]

Gwaith

[golygu | golygu cod]

Dramâu Llwyfan

[golygu | golygu cod]
  • Hunllef Yng Nghymru Fydd (1990) Dalier Sylw (cyfarwyddydd)
  • Largo Desolato (1990) Dalier Sylw (cyfarwyddydd)
  • Mysgu Cymyle (1991) Dalier Sylw (cyfarwyddydd)
  • Half Year End - cyd-awdur a chyfarwyddydd - Rhosllannerchrugog
  • Y Forwyn Goch (1992) Dalier Sylw (cyfarwyddydd)
  • Wyneb Yn Wyneb (1992) Dalier Sylw (cyfarwyddydd)
  • Tair (1993) Dalier Sylw (cyfarwyddydd)
  • Calon Ci (1993) Dalier Sylw (cyfarwyddydd)
  • Fel Anifal (1994) Dalier Sylw (cyfarwyddydd)

Dramâu Teledu a Ffilmiau

[golygu | golygu cod]
  • Coleg (1982- ) HTV/S4C (actores)
  • Dinas (1985- ) HTV/S4C (actores)
  • Pobol Y Cwm (2002 -2005) BBC (cynhyrchydd ac uwch gynhyrchydd)
  • Hamlet (2009) (uwch gynhyrchydd)
  • Sherlock (2010-2017) BBC / Hartswood (uwch gynhyrchydd)
  • Mistresses (2011) BBC (uwch gynhyrchydd)
  • Baker Boys (2011) BBC (cynhyrchydd)
  • Merlin BBC (uwch gynhyrchydd)
  • Room At The Top (2012) BBC (uwch gynhyrchydd)
  • Wizards Vs. Aliens (2012) BBC (uwch gynhyrchydd)
  • A Poet in New York BBC (uwch gynhyrchydd)
  • The Passing Bells (2014) BBC (uwch gynhyrchydd)
  • Under Milk Wood (2014) BBC (uwch gynhyrchydd)
  • Atlantis (2014-2015) BBC (uwch gynhyrchydd)
  • War And Peace (2016) BBC (uwch gynhyrchydd)
  • Aberfan: The Green Hollow (2016) BBC (uwch gynhyrchydd)
  • Press (2018) BBC (uwch gynhyrchydd)
  • Les Misérables (2018-2019) BBC (uwch gynhyrchydd)
  • Dangerous Liaisons (2022) (Starz/Lionsgate) (uwch gynhyrchydd)[7]
  • The Way (2024) BBC (uwch gynhyrchydd)

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Bethan Jones". Television Academy (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-09-11.
  2. 2.0 2.1 "Bethan Jones and Lynwen Brennan to be honoured at British Academy Cymru Awards". www.bafta.org (yn Saesneg). 2019-10-02. Cyrchwyd 2024-09-11.
  3. Rhaglen Calon Ci gan Dalier Sylw. 1994.
  4. "Bethan Elwyn JONES personal appointments - Find and update company information - GOV.UK". find-and-update.company-information.service.gov.uk (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-09-11.
  5. "THE WAY: BBC ANNOUNCES NEW DRAMA FROM MICHAEL SHEEN AND JAMES GRAHAM". www.tvzoneuk.com. Cyrchwyd 2024-09-11.
  6. "Little Door Productions, the Welsh firm behind BBC drama The Pact, is expanding its team with the appointment of Playground Entertainment's Bethan Jones and BBC exec Beth Grant".
  7. "Bethan Jones | Producer, Editorial Department". IMDb (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-09-11.