Cystadleuaeth Cân Eurovision 2023
Cystadleuaeth Cân Eurovision 2023 | |
---|---|
United by Music | |
Dyddiad(au) | |
Rownd cyn-derfynol 1 | 9 Mai 2023 |
Rownd cyn-derfynol 2 | 11 Mai 2023 |
Rownd terfynol | 13 Mai 2023 |
Cynhyrchiad | |
Lleoliad | Liverpool Arena, Lerpwl, Y Deyrnas Unedig |
Cyflwynyddion | Alesha Dixon Hannah Waddingham Julia Sanina Graham Norton (rownd terfynol) |
Darlledwr | British Broadcasting Corporation (BBC) |
Cyfarwyddwyd gan | Nikki Parsons Richard Valentine Ollie Bartlett |
Cystadleuwyr | |
Nifer y gwledydd | 37 |
Dangosiad cyntaf | Dim |
Dychweliadau | Dim |
Tynnu'n ôl | Bwlgaria Montenegro Gogledd Macedonia |
Canlyniadau | |
System pleidleisio | Mae pob gwlad yn rhoi 12, 10, 8-1 pwynt: Yn y rowndiau cyn-derfynol, pleidleisiwyd y cyhoedd yn unig. Roedd pleidlais beirniaid proffesiynol a'r cyhoedd yn y rownd terfynol. Gall gwylwyr yng ngwledydd sydd ddim yn cystadlu bleidleisio ar-lein. |
Cân fuddugol | Sweden Loreen - "Tattoo" |
Cystadleuaeth Cân Eurovision 2023 oedd y 67fed Cystadleuaeth Cân Eurovision, gyda dau rownd cyn-derfynol a rownd terfynol ym Mai 2023.[1] Enillodd Wcráin y gystadleuaeth yn 2022 gyda'r gân "Stefania" a pherfformiwyd gan Kalush Orchestra. Enillodd Sweden y gystadleuaeth yn 2023 gyda'r gân "Tattoo" a pherfformiwyd gan Loreen. Hwn oedd y tro cyntaf i gantores fenyw ennill y gystadleuaeth ddwywaith.[2]
Fel arfer, cynhelir y gystadleuaeth ganlynol yn y wlad a enillodd y gystadleuaeth flaenorol, ond o ganlyniad i Goresgyniad Wcráin gan Rwsia yn 2022, rhyddhaodd yr Undeb Darlledu Ewropeaidd (EBU) ddatganiad gan ddweud na fyddai'r gystadleuaeth yn cael ei chynnal yn Wcráin yn 2023.[3] Bydd y gystadleuaeth yn cael ei chynnal yn y Deyrnas Unedig am y nawfed tro[4]. Roedd galwadau i'r gystadleuaeth cael ei chynnal yng Nghymru,[5][6], ond ar 3 Awst 2022 mae Cyngor Caerdydd wedi cyhoeddi na fydd y gystadleuaeth yn cael ei chynnal yng Nghaerdydd, oherwydd trefnir digwyddiadau eraill yn barod.[7]
Lleoliad
[golygu | golygu cod]Ar ôl y cyhoeddiad gan yr Undeb Darlledu Ewropeaidd a ddywedodd na fydd y gystadleuaeth yn cael ei chynnal yn Wcráin, mynegodd sawl dinas y Deyrnas Unedig ddiddordeb mewn cynnal y gystadleuaeth, gan gynnwys Caerdydd.[8]
Y llynedd, roedd meini prawf yr EBU am leoliad addas yn cynnwys digon o le am 10,000 o wylwyr a chanolfan i'r wasg, ac yn agos at faes awyr rhyngwladol a digon o lety.
Canlyniadau
[golygu | golygu cod]Rownd cyn-derfynol un
[golygu | golygu cod]Cymwys i'r rownd terfynol
Trefn[9] | Gwlad | Artist | Cân | Iaith | Safle | Pwyntiau[10] |
---|---|---|---|---|---|---|
01 | Norwy | Alessandra | "Queen of Kings" | Saesneg | 6 | 102 |
02 | Malta | The Busker | "Dance (Our Own Party)" | Saesneg | 15 | 3 |
03 | Serbia | Luke Black | "Samo mi se spava" | Serbeg, Saesneg | 10 | 37 |
4 | Latfia | Sudden Lights | "Aijā" | Saesneg | 11 | 34 |
5 | Portiwgal | Mimicat | "Ai coração" | Portiwgaleg | 9 | 74 |
6 | Gweriniaeth Iwerddon | Wild Youth | "We Are One" | Saesneg | 12 | 10 |
7 | Croatia | Let 3 | "Mama ŠČ!" | Croateg | 8 | 76 |
8 | Y Swistir | Remo Forrer | "Watergun" | English | 7 | 97 |
9 | Israel | Noa Kirel | "Unicorn" | Saesneg | 3 | 127 |
10 | Moldofa | Pasha Parfeni | "Soarele și luna" | Rwmaneg | 5 | 109 |
11 | Sweden | Loreen | "Tattoo" | Saesneg | 2 | 135 |
12 | Aserbaijan | TuralTuranX | "Tell Me More" | Saesneg | 14 | 4 |
13 | Gweriniaeth Tsiec | Vesna | "My Sister's Crown" | Saesneg, Wcreineg, Tsieceg, Bwlgareg | 4 | 110 |
14 | Yr Iseldiroedd | Mia Nicolai a Dion Cooper | "Burning Daylight" | Saesneg | 13 | 7 |
15 | Y Ffindir | Käärijä | "Cha Cha Cha" | Ffineg | 1 | 177 |
Rownd cyn-derfynol dau
[golygu | golygu cod]Cymwys i'r rownd terfynol
Trefn[9] | Gwlad | Artist | Cân | Iaith | Safle | Pwyntiau[11] |
---|---|---|---|---|---|---|
01 | Denmarc | Reiley | "Breaking My Heart" | Saesneg | 14 | 6 |
02 | Armenia | Brunette | "Future Lover" | Saesneg, Armeneg | 6 | 99 |
03 | Rwmania | Theodor Andrei | "D.G.T. (Off and On)" | Rwmaneg, Saesneg | 15 | 0 |
04 | Estonia | Alika | "Bridges" | Saesneg | 10 | 74 |
05 | Gwlad Belg | Gustaph | "Because of You" | Saesneg | 8 | 90 |
06 | Cyprus | Andrew Lambrou | "Break a Broken Heart" | Saesneg | 7 | 94 |
07 | Gwlad yr Iâ | Diljá | "Power" | Saesneg | 11 | 44 |
08 | Gwlad Groeg | Victor Vernicos | "What They Say" | Saesneg | 13 | 14 |
09 | Gwlad Pwyl | Blanka | "Solo" | Saesneg | 3 | 124 |
10 | Slofenia | Joker Out | "Carpe Diem" | Slofeneg | 5 | 103 |
11 | Georgia | Iru | "Echo" | Saesneg | 12 | 33 |
12 | San Marino | Piqued Jacks | "Like an Animal" | Saesneg | 16 | 0 |
13 | Awstria | Teya a Salena | "Who the Hell is Edgar?" | Saesneg | 2 | 137 |
14 | Albania | Albina a Familja Kelmendi | "Duje" | Albaneg | 9 | 83 |
15 | Lithwania | Monika Linkytė | "Stay" | Saesneg | 4 | 110 |
16 | Awstralia | Voyager | "Promise" | Saesneg | 1 | 149 |
Rownd derfynol
[golygu | golygu cod]1af 2il Safle olaf
Trefn[12] | Gwlad | Artist[12] | Cân | Iaith | Safle | Pwyntiau[13] |
---|---|---|---|---|---|---|
01 | Awstria | Teya a Salena | "Who the Hell is Edgar?" | Saesneg | 15 | 120 |
02 | Portiwgal | Mimicat | "Ai coração" | Portiwgaleg | 23 | 59 |
03 | Y Swistir | Remo Forrer | "Watergun" | Saesneg | 20 | 92 |
04 | Gwlad Pwyl | Blanka | "Solo" | Saesneg | 19 | 93 |
05 | Serbia | Luke Black | "Samo mi se spava" | Serbeg, Saesneg | 24 | 30 |
06 | Ffrainc | La Zarra | "Évidemment" | Ffrangeg | 16 | 104 |
07 | Cyprus | Andrew Lambrou | "Break a Broken Heart" | Saesneg | 12 | 126 |
08 | Sbaen | Blanca Paloma | "Eaea" | Sbaeneg | 17 | 100 |
09 | Sweden | Loreen | "Tattoo" | Saesneg | 1 | 583 |
10 | Albania | Albina a Familja Kelmendi | "Duje" | Albaneg | 22 | 76 |
11 | Yr Eidal | Marco Mengoni | "Due vite" | Eidaleg | 4 | 350 |
12 | Estonia | Alika | "Bridges" | Saesneg | 8 | 168 |
13 | Y Ffindir | Käärijä | "Cha Cha Cha" | Ffineg | 2 | 526 |
14 | Gweriniaeth Tsiec | Vesna | "My Sister's Crown" | Saesneg, Wcreineg, Tsieceg, Bwlgareg | 10 | 129 |
15 | Awstralia | Voyager | "Promise" | Saesneg | 9 | 151 |
16 | Gwlad Belg | Gustaph | "Because of You" | Saesneg | 7 | 182 |
17 | Armenia | Brunette | "Future Lover" | Saesneg, Armeneg | 14 | 122 |
18 | Moldofa | Pasha Parfeni | "Soarele și luna" | Rwmaneg | 18 | 96 |
19 | Wcráin | Tvorchi | "Heart of Steel" | Saesneg, Wcreineg | 6 | 243 |
20 | Norwy | Alessandra | "Queen of Kings" | Saesneg | 5 | 268 |
21 | Yr Almaen | Lord of the Lost | "Blood & Glitter" | Saesneg | 26 | 18 |
22 | Lithwania | Monika Linkytė | "Stay" | Saesneg | 11 | 127 |
23 | Israel | Noa Kirel | "Unicorn" | Saesneg | 3 | 362 |
24 | Slofenia | Joker Out | "Carpe Diem" | Slofeneg | 21 | 78 |
25 | Croatia | Let 3 | "Mama ŠČ!" | Croateg | 13 | 123 |
26 | Y Deyrnas Unedig | Mae Muller | "I Wrote a Song" | Saesneg | 25 | 24 |
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Eurovision is over for another year... so what's the plan for 2023?". Eurovision.tv (yn Saesneg). 18 Mai 2022. Cyrchwyd 17 Gorffennaf 2022.
- ↑ Annabel Nugent (14 Mai 2023). "Sweden's Loreen wins Eurovision Song Contest 2023, with disappointing final result for UK's Mae Muller". The Independent (yn Saesneg). Cyrchwyd 14 Mai 2023.
- ↑ "EBU STATEMENT ON HOSTING OF 2023 EUROVISION SONG CONTEST". EBU.ch (yn Saesneg). 17 Mehefin 2022. Cyrchwyd 17 Gorffennaf 2022.
- ↑ "United Kingdom to host Eurovision Song Contest 2023". Eurovision.tv (yn Saesneg). 25 Gorffennaf 2022. Cyrchwyd 30 Gorffennaf 2022.
- ↑ "Galw am gynnal Eurovision yng Nghaerdydd". Golwg360. 27 Gorffennaf 2022.
- ↑ "Eurovision 2023: Principality Stadium keen to host song contest". Gwefan newyddion BBC. 20 Mehefin 2022.
- ↑ "Cyngor Caerdydd 'ddim am barhau â chais i gynnal Eurovision'". Newyddion S4C. 3 Awst 2022. Cyrchwyd 3 Awst 2022.
- ↑ Nathan Picot (17 Mehefin 2022). "Cardiff express interest in a bid for Eurovision 2023" (yn Saesneg). Eurovoix. Cyrchwyd 30 Gorffennaf 2022.
- ↑ 9.0 9.1 "Eurovision 2023: Semi-Final running orders revealed!". Eurovision.tv. EBU. 22 Mawrth 2023. Cyrchwyd 23 Mai 2023.
- ↑ "First Semi-Final of Liverpool 2023". Eurovision.tv. EBU. 13 Mai 2023. Cyrchwyd 23 Mai 2023.
- ↑ "Second Semi-Final of Liverpool 2023". Eurovision.tv. EBU. 13 Mai 2023. Cyrchwyd 23 Mai 2023.
- ↑ 12.0 12.1 "Eurovision 2023: The Grand Final running order". Eurovision.tv. EBU. 2023-05-12. Cyrchwyd 2023-05-23.
- ↑ "Grand Final of Liverpool 2023". Eurovision.tv. EBU. 13 Mai 2023. Cyrchwyd 23 Mai 2023.
Dolen allanol
[golygu | golygu cod]- (Saesneg) Gwefan swyddogol