Neidio i'r cynnwys

Glanwydden

Oddi ar Wicipedia
Glanwydden
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirConwy Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.3069°N 3.7761°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH816802 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruJanet Finch-Saunders (Ceidwadwyr)
AS/au y DUClaire Hughes (Llafur)
Map

Pentref bychan yng nghymuned Llandudno, bwrdeistref sirol Conwy, Cymru, yw Glanwydden.[1][2] Fe'i lleolir yn ardal y Creuddyn rhwng Llandudno a Bae Colwyn tua milltir i'r de-orllewin o Fae Penrhyn.

Mae gan y pentref un dafarn a thua 30 o dai. Cofnodir melin wynt ac ystordai yno mewn siarter a luniwyd yn 1580. Yn yr 17g datblygwyd chwareli calchfaen yn y cylch ac yn ddiweddarach defnyddiwyd y garreg at adeiladu rhai o westai crand Llandudno.

Ym Mai 2008 cynhaliwyd Eisteddfod yr Urdd yn y pentref.

Glanwydden

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 24 Tachwedd 2021