Tywyn, Conwy
Math | cyrchfan lan môr, tref |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Bae Cinmel a Thywyn |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.302°N 3.54°W |
Cod SYG | W05001429 |
Cod OS | SH974794 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Darren Millar (Ceidwadwyr) |
AS/au y DU | Gill German (Llafur) |
Tref glan môr yng nghymuned Tywyn a Bae Cinmel ym mwrdeisdref sirol Conwy yw Tywyn[1][2] (hefyd Towyn).
Mae'n sefyll ger arfordir gogledd-ddwyrain Cymru rhwng Abergele a Pensarn i'r gorllewin a Bae Cinmel a'r Rhyl i'r dwyrain. Rhed yr A549 trwy'r pentref ac mae Rheilffordd Arfordir Gogledd Cymru yn mynd trwyddo i'r gogledd ond does dim gorsaf yno.
Datblygodd Tywyn fel canolfan gwyliau glan môr wrth i boblogrwydd Y Rhyl a'r cyffiniau gynyddu fel cyrchfan twristaidd. Ceir sawl maes carafanau rhwng y pentref a'r traeth, sy'n dywodlyd a braf. Mae nifer o dai a byngalos ar dir gwastad y pentref sydd islaw lefel y môr ar lanw uchel. Gorlifiodd y môr dros y morglawdd rhai blynyddoedd yn ôl gan effeithio ar gannoedd o dai.
Hynafiaethau
[golygu | golygu cod]I'r de o Dywyn ceir Morfa Rhuddlan, safle brwydr rhwng y Cymry a'r Eingl-Sacsoniaid yn yr Oesoedd Canol Cynnar.
Bywyd Gwyllt
[golygu | golygu cod]Mae llawer wedi ei golli o'r ardal, fel ymhobman, dros yr 20g. Soniodd y dyddiadurwr John (neu Lorrimer) Thomas o Tywyn, unwaith iddo wylio pâr o frych y coed yn codi nyth ac iddo aros nes iddynt ddodwy un wy, wedyn un arall...nes cyrraedd y pump arferol, cyn iddo ddwyn y cwbl ar gyfer ei gasgliad heb feddwl ddwywaith. Yn 1928 ymfalchiodd fod y number of eggs in my collection is 2208 (roedd arferion felly fawr o gymorth mae'n siwr). Yn Foryd Road, Tywyn, cofnododd fras yr yd, gwybedog mannog, a pibyddion y dorlan. Nid oes bras yr ŷd yn unman yng Nghymru bellach, a go brin y bu’r ddau arall ar gyfyl Foryd Road, Tywyn ers degawdau. Dipyn o sgôr i lecyn sydd erbyn hyn wedi colli llawer iawn o'i swyn ar sawl cyfrif[3]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
- ↑ British Place Names; adalwyd 20 Tachwedd 2021
- ↑ gweler yr hen lun o Foryd Road, Tywyn, ym Mwletin Llên Natur rhifyn 24
Trefi
Abergele · Bae Colwyn · Betws-y-Coed · Conwy · Cyffordd Llandudno · Degannwy · Hen Golwyn · Llandudno · Llanfairfechan · Llanrwst · Penmaenmawr · Tywyn
Pentrefi
Bae Cinmel · Bae Penrhyn · Betws-yn-Rhos · Bryn-y-maen · Bylchau · Caerhun · Capel Curig · Capel Garmon · Cefn Berain · Cefn-brith · Cerrigydrudion · Craig-y-don · Cwm Penmachno · Dawn · Dolgarrog · Dolwen · Dolwyddelan · Dwygyfylchi · Eglwys-bach · Esgyryn · Gellioedd · Glanwydden · Glasfryn · Groes · Gwytherin · Gyffin · Henryd · Llanbedr-y-cennin · Llandrillo-yn-Rhos · Llanddoged · Llanddulas · Llanefydd · Llanelian-yn-Rhos · Llanfair Talhaearn · Llanfihangel Glyn Myfyr · Llangernyw · Llangwm · Llangystennin · Llanrhos · Llanrhychwyn · Llan Sain Siôr · Llansanffraid Glan Conwy · Llansannan · Llysfaen · Maenan · Y Maerdy · Melin-y-coed · Mochdre · Nebo · Pandy Tudur · Penmachno · Pensarn · Pentrefelin · Pentrefoelas · Pentre-llyn-cymmer · Pentre Tafarnyfedw · Pydew · Rowen · Rhydlydan · Rhyd-y-foel · Tal-y-bont · Tal-y-cafn · Trefriw · Tyn-y-groes · Ysbyty Ifan