Neidio i'r cynnwys

Tal-y-bont, Conwy

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Tal-y-bont (Conwy))
Tal-y-bont
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirConwy Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.202°N 3.847°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH766688 Edit this on Wikidata
Cod postLL32 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruJanet Finch-Saunders (Ceidwadwyr)
AS/au y DUClaire Hughes (Llafur)
Map
Am leoedd eraill o'r un enw, gweler Tal-y-bont (gwahaniaethu).

Pentref yng nghymuned Caerhun, mwrdeisdref sirol Conwy, Cymru, yw Tal-y-bont.[1][2] Mae'n gorwedd yng ngogledd-orllewin Dyffryn Conwy, ar lan orllewinol Afon Conwy, ar ffordd y B5106 6 milltir i'r de o dref Conwy, a 6 milltir i'r gogledd o Lanrwst. Mae gyferbyn â phentref Dolgarrog a ger pentref Llanbedr-y-Cennin. Mae'n debygol mai'r bont dros Afon Dulyn a gyfeirir ati yn yr enw, sy'n un o lednentydd Afon Conwy.

Eryri a'r Carneddau

[golygu | golygu cod]

Mae Tal-y-Bont yn fan cychwyn y ffordd i Llyn Eigiau a mynyddoedd deheuol y Carneddau. Gellir cyrraedd gogledd y Carneddau a Ffordd Rufeinig Caer-Segontiwm gan ddilyn y ffordd o Dal-y-Bont trwy Llanbedr-y-Cennin - sydd yn marcio ymyl dwyreiniol Parc Cenedlaethol Eryri - a throi i'r chwith wrth dafarn Ye Olde Bull Inn, yn Llanbedr. Gall cerddwyr gyrraedd ochr gogleddol Carneddau a mynyddoedd megis y Drum a Foel Fras, cyn cario mlaen i'r de ddwyrain i gyrraedd Carnedd Llewelyn.

Cyfleusterau

[golygu | golygu cod]

Mae capel ac ysgol gynradd, gwesty The Lodge, tafarn Y Bedol, siop cigydd T. Parry-Jones and Daughters, siop leol a neuadd goffa gyda cyfleusterau adloniadol sy'n cynnwys cwrt tenis. Roedd gorsaf petrol a garej unwaith, sef "Rose's Garage" a oedden yn eiddo Mr. Rose ac yn ddiweddrach ei fab Keith Rose, ond mae hwn eisoes wedi cau i lawr.

Ysgol Tal-y-bont

Henebion yn y cylch

[golygu | golygu cod]

Lleolir pentref bychan Caerhun hanner milltir i'r gogledd o Dal-y-Bont, mae Caer Rufeinig Kanovium (tua 60 OC) i'w chanfod yma.

I'r gorllewin o'r pentref mae bryn o'r enw Pen-y-Gaer, lle ceir bryngaer o Oes yr Efydd ar ei gopa. Mae'r bryn yn sefyll mewn lleoliad awdurdodol uwchben y pentref, gyda golygfeydd i lawr y dyffryn i'r gogledd i Gonwy a Llandudno, ac i'r de i Llanrwst. Gellir cyrraedd Pen-y-Gaer gan ddilyn y ffordd sy'n mynd fyny drwy Llanbedr-y-Cennin, a throi i'r chwith wrth dafarn yr Olde Bull Inn a throi i'r chwith eto mewn rhai milltiroedd pan mae'r bryn yn ymddangos uwchben ar y chwith.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 21 Tachwedd 2021

Dolen allanol

[golygu | golygu cod]